DOEDD yna ddim pennawd bras yn cyhoeddi'r enedigaeth, dim llun, dim ffws, dim ffwdan. Hyd y gwyddom, doedd yna fawr o rwysg chwaith, oherwydd dyna'r drefn bryd hynny, pan welodd Yr Herald Cymraeg olau dydd am y tro cyntaf. Mai 19, 1855 oedd y dyddiad hollbwysig, ac yn amlwg, nid oedd angen unrhyw ffanfer wrth gyhoeddi wythnosolyn Cymraeg newydd sbon. Roedd y Cymry yn awchu am newyddion yn eu mamiaith pan aeth James Rees - perchennog y Caernarfon & Denbigh Herald - ati i gynhyrchu cyhoeddiad yn iaith gyntaf y mwyafrif llethol o'i ddarllenwyr. Roedd y papur Saesneg yn bodoli ers dros 20 mlynedd, ac felly roedd yn benderfyniad busnes cwbl naturiol, a'r unig syndod yw fod Rees wedi cymryd cyhyd i gyhoeddi papur wythnosol yn iaith y nefoedd. Cafodd dderbyniad gwresog, a bu'n gwerthu dros 20,000 o gopiau, drwy Gymru gyfan ar un adeg. Am dalp helaeth o'i fodolaeth, ychydig iawn o newid fu yn niwyg, ac yn wir, ym mhris y papur. Mewn canrif, dim ond dwy geiniog o godiad a fu - o geiniog i dair ceiniog. A rhwng 1855 a 1955 nid oedd fawr o newid i'w weld ar y dudalen flaen, gyda chymysgedd o newyddion, llythyrau a hysbysebion, ac wedyn hysbysebion yn unig ar y blaen. Byddai'r drefn honno'n parhau tan ddiwedd y 1970au. Ond daeth oes y cyfrifiadur, a newidiodd y ffordd y cynhyrchid papurau newydd yn llwyr - o waith y gohebydd a'r is-olygydd i'r cysodwyr a'r printars. Chwyldro os bu un erioed, ac erbyn hyn wrth gwrs mae cyfrifiaduron yn chwarae rhan enfawr yn ein bywydau. Rydych yn darllen yr ysgrif hon ar gyfrifiadur, ac mae gan nifer fawr o gartrefi beiriant. Felly mae'n ddatblygiad cwbl naturiol i'r Herald gael lle ar y we, lle gallwch weld peth o gynnwys wythnosol y papur, a chyfrannu at drafodaethau difyr am feddyginiaethau, geiriau dieithr, pynciau'r dydd, ac yn wir unrhyw beth sy'n eich pigo neu'n haeddu canmoliaeth. Croeso i wefan Yr Herald Cymraeg Tudur Huws Jones (golygydd) |