Nid yn y môr yn unig mae trysor Sep 3 2008
ROEDD hi’n bnawn bendigedig o braf wrth i mi adael Porth yr Ynys. Roedd ‘na awel braf o’r môr a phobl, plant a chn yn mwynhau eu hunain yn chwilota ar y traeth. Roedd criw o ddynion a llanciau ifanc yn pysgota oddi ar Drwyn y Grupyl ac eraill wedyn yn mwynhau eu hunain mewn cychod a chanwod ar y môr. Dal ymlaen ar lwybr yr arfordir wnes i, gan basio Bythynnod y Swnt a mynd yn fy mlaen i’r penrhyn. more
Oes mwy darbodus erstalwm Sep 3 2008
DIOLCH yn fawr i Elizabeth Roberts, Penrhyndeudraeth am ei llythyr yn cyfeirio at ei mam, Mary Thomas o Forfa Nefyn, oedd yn defnyddio planhigion meddyginiaethol. more
Mae’n debyg bod ’na well ‘fizz’ yn fy stwff i na’r lleill! Sep 3 2008
WEL, dyna be oedd wythnos brysur. Mi ddechreuodd ar ddydd Llun Gyl y Banc efo Sioe Rhydymain. Ond ro’n i wedi bod yn brysur dros y penwythnos yn coginio ac ati ar ei chyfer hi wrth gwrs. Ro’n i’n benderfynol o gystadlu eleni am ddau reswm: more
Dal i ganu Sep 3 2008
BYDD Côr ysgol Glanaethwy yn ymddangos hefo Russell Watson eto nos Sadwrn nesa. Ond ni fydd y tenor yn beirniadu’r côr y tro hwn ond yn cyd-ganu gyda hwy mewn cyngerdd awyr agored yn yr Amwythig. more
Dwi’n cysgu mewn pabell heno hyd yn oed os yw ’mond lawr y lôn yn Nhalmignedd! Sep 3 2008
DWI’N beio Bethan Gwanas. Wrth ddarllen ei cholofn, daeth yr hen awydd i fyw dan ganfas yn ôl i mi. Roedden ni wedi bwriadu gwersylla am wythnos yn Llanrwst, ond gyda tywydd mor echrydus, a phabell yn y Steddfod wedi bod yn hen ddigon, roedden ni’n brysur yn chwilio am Gynllun B. Tan i mi ddarllen erthygl Gwanas, a chael y syniad hurt fod y tywydd yn gwella. more
Perfformiad siriol yn y Speigltent Sep 3 2008
FE gefais wahoddiad diddorol a chymharol annisgwyl yr wythnos diwethaf. A dweud y gwir roedd yn wahoddiad munud ola a bu rhaid ymateb yn sydyn i’r gwahoddiad os oeddwn am fynd. Diwrnod o rybudd gefais – “a hoffwn i ddod fyny i Gaeredin i weld perfformiad gan y grwp Kerieva yn y “Byd Enwog “ Speigltent”? Rwan roedd y syniad o gael trip i Gaeredin yn rhy dda i’w wrthod a munud sicrheais fod modd cyrraedd mewn pryd ar y trên (doedd hedfan ddim yn gwneud synnwyr economaidd) dyma dderbyn y gwahoddiad gyda balchder a brwdfrydedd. more
Rhedeg ar amser Sep 3 2008
Bydd Rheilffordd yr Ucheldir ym Mhorthmadog erbyn Pasg nesaf more
Cysylltiad Gwynedd gyda Lerpwl Sep 3 2008
BYDD arddangosfa sy’n dathlu’r perthynas arbennig rhwng Gwynedd a Lerpwl yn agor yn Amgueddfa Bangor brynhawn Sadwrn. more
Hel eich bol pan mae’r llanw allan Aug 27 2008
DWI ddim yn meddwl y gall neb honni ei bod hi wedi gwneud haf da eleni! Yn anffodus, ryw dywydd digon bethma mae hi wedi ei wneud a dim cymaint â chymaint o haul er mwyn i ni fedru loetran yng nglan y môr. Nid bod hynny wedi fy rhwystro i rhag mynd i’r traeth, dydi o ddim. Fel y gwyddoch chi bellach. Mi rydw i’n ddigon hapus i dreulio oriau bwygilydd yn piltran ar y traeth. more