MAEN nhw ymhlith cymeriadau mwyaf adnabyddus a mwyaf poblogaidd llenyddiaeth Gymraeg. Ac fe fydd Wil Cwac Cwac, Sion Blewyn Coch, Ifan Twrci Tenau, Martha Plu Chwithig a thrigolion eraill Llyn y Felin yn cychwyn ar daith o amgylch Cymru yn gynnar mis nesaf. Y mae taith Llyfr Mawr y Plant yn un y bu disgwyl mawr amdani nid lleiaf ymhlith oedolion sy’n cofio darllen llyfr plant enwocaf y Gymraeg. Wedi ei gyhoeddi yn y 1930au mae llyfr Jenny Thomas a JO Williams wedi hudo cenedlaethau o blant gyda’i Gymraeg rhywiog, ei luniau trawiadol a’i fôr o ddigrifwch. Mae tri chwmni wedi dod at ei gilydd ar gyfer y cynhyrchiad; Theatr Bara Caws, ar y cyd â Theatr Gwynedd a Galeri. I’r actor ifanc o Ddyffryn Clwyd, Iwan Charles, yr aiff yr her o chwarae Wil Cwac Cwac. Meddai: “Mae’n gyffrous, ond dwi hefyd ychydig bach yn nerfus. Mae Wil Cwac Cwac yn ddipyn o eicon cenedlaethol yn dydi? Felly jest gobeithio y gallaf wneud cyfiawnhad â fo, neu fydd pawb yr fy ôl i!” Eilir Jones - Ffarmwr Ffowc ac un o selogion Bara Caws - fydd yn chwarae rhan Twm Larwm, hen ddyn y coed. “Rwy’ wir yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r cynhyrchiad hwn. Roedd Llyfr Mawr y Plant yn rhan o’m mhlentyndod i, fel y mae wedi bod i ran fwyaf o blant Cymru ers iddo gael ei gyhoeddi nôl yn 1931, felly dwi’n edrych ymlaen at fynd yn ôl mewn amser gyda’r cynhyrchiad hwn,” meddai. Bydd actorion sydd hefyd yn adnabyddus fel cantorion - Sian James, Siwan Llynor a Neil ‘Maffia’ Williams - yn dod ag elfen gerddorol gref i’r cynhyrchiad. Aelodau eraill y cast yw Delyth Eirwyn, Catrin Jane Evans, Carys Gwilym, Merfyn Pierce Jones, Arwel Wyn Roberts a Darren Stokes. Ychwanegodd Tony Llewelyn, y cyfarwyddwr: “Mae Catrin Edwards wedi cyfansoddi cerddoriaeth fendigedig ar gyfer y sioe i gyd-fynd â geiriau Gareth F Williams, ac felly wrth i ni gastio roedd yn bwysig chwilio am leisiau canu cry’ yn ogystal â thalent actio. Dwi’n hapus iawn gyda’r cast . Mae na wahanol bersonoliaethau, yn union fel cymeriadau’r llyfr.” Bydd y sioe yn cychwyn ar ei thaith fel cynhyrchiad proffesiynol olaf Theatr Gwynedd ar Hydref 4 ac yna’n teithio i ganolfannau ledled Cymru gan gynnwys Y Pafiliwn yn Y Rhyl, Theatr Mwldan yn Aberteifi, Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. |