icNorthWales - Dwi’n cysgu mewn pabell heno hyd yn oed os yw ’mond lawr y lôn yn Nhalmignedd!
Newyddion logo
icNorthWales Daily Post Motors Homes Jobs Wales Dating Yr Herald
Search icNorthWales for:
Yr Herald Cymraeg arrow     


Dwi’n cysgu mewn pabell heno hyd yn oed os yw ’mond lawr y lôn yn Nhalmignedd!

Sep 3 2008

by Eryl Crump, Yr Herald Cymraeg

 

DWI’N beio Bethan Gwanas. Wrth ddarllen ei cholofn, daeth yr hen awydd i fyw dan ganfas yn ôl i mi. Roedden ni wedi bwriadu gwersylla am wythnos yn Llanrwst, ond gyda tywydd mor echrydus, a phabell yn y Steddfod wedi bod yn hen ddigon, roedden ni’n brysur yn chwilio am Gynllun B. Tan i mi ddarllen erthygl Gwanas, a chael y syniad hurt fod y tywydd yn gwella.

Fore Gwener, roedden ni wedi pacio popeth mewn dwyawr, ac yn barod i gychwyn am naw. Pum gwersyll llawn yn ddiweddarach, roedd y Dyn Fej yn sôn am fynd adre. Dim ffiars o beryg, atebais, “Dwi’n cysgu mewn pabell heno hyd yn oed os yw ’mond lawr y lôn yn Nhalmignedd.”

Ar y chweched cynnig, roedden ni’n llwyddiannus, a dyma osod y babell. O fewn awr, ron i’n eistedd mewn cadair, yn edrych ar y mynyddoedd, a phaned yn fy llaw. O chwi o ychydig ffydd, meddyliais, cwbl oedd eisiau ei wneud oedd mentro. Erbyn pedwar bnawn Gwener, roedd y cae yn gyfforddus lawn, erbyn wyth, roedd yn orlawn. Mae gwersylla yn bendant yn dod yn fwy poblogaidd, ac nid yw hynny’n syndod. Gyda’r crynsh-credit mae chwe phunt y noson yn swnio cymaint mwy deniadol na hanner can punt am westy.

Rhwng Betws y Coed a Llanrwst oedd y cae, a’r person cyntaf inni gwrdd ag o oedd Alex, 8 oed, o Lerpwl. (Roedd pawb yn byw rhyw awr i ffwrdd, yn Lerpwl neu Manceinion). Cefais gyfle i ddarllen ‘Igam Ogam’ tra roedd y mab ac Alex yn taflu cerrig yn yr afon. Llonyddwch bendigedig. Mae Saesneg yr hogyn wedi ymestyn eleni i allu gofyn ‘Can I play?’ a ‘Will you be my friend?’ Handi ar y naw.

Am bunt fore Sadwrn, fedrwch chi anfon gweddill y teulu i’r pictwrs am bunt a chael llonydd pellach yn mwynhau paned o goffi ar y stryd yn Llandudno. Ysgrifennais fy nghardiau post yn deud mod i’n teimlo yn gyfandirol iawn, a mor braf oedd Llandudno y bore hwnnw. O ystyried mai hwn oedd yr haf gwaethaf o fewn cof, ron i’n ei gwneud hi’n iawn.

Chysgais i ddim yn dda y noson gyntaf. Roedd yna dylluan fywiog gerllaw yn mynnu fy nghadw ar ddi-hun. Erbyn yr ail noson, roedd hi mor joli ar y cae pebyll fel ron i’n dechrau amau oedd unrhyw un ar ôl yn Lerpwl. Roedd pawb arall fel petaent yn perthyn i un genedl fawr unedig ac yn cael yr hwyl ryfeddaf yn cynnau tân, gwledda ar barbaciws, yfed alcohol a chanu caneuon. Ninnau yn ein hynys fechan Gymreig, lysieuol yn trio cysgu, a slogannau megis ‘Cofiwch Dryweryn, a ‘Gwell llaeth Cymru na chwrw Lloegr’ yn mynnu atseinio yn fy mhen.

Mae gwersylla yn golygu byw yn agos iawn at eich cymdogion. Rydych yn clywed eu chwyrnu yn y nos, rydych yn arogli eu bacwn bore wedyn. Wrth i chi folchi a brwsio’ch dannedd gyda nhw yn y bore, ofer chwenychu preifatrwydd. Wedi gorffen bwyta, mae pawb yn y ciw yn eich gwylio wrth iddynt aros eu tro am y sinc. Mae’r byd a’r betws yn gweld eich pabell wrth iddynt basio heibio. Ond fel un sy’n mwynhau gwylio pobl, dydi hyn ddim yn peri tramgwydd i mi. Dwi’n lecio busnesu beth gaiff pobl eraill i frecwast, a sut mae nhw’n trefnu (neu ddim yn cadw trefn) ar eu pebyll.

Roedd elfen o gyd-ddioddef yn clymu pobl ynghyd dros benwythnos Gyl y Banc. Gwaethygu wnaeth y tywydd, a gwlychodd y gwersyllwyr. Trodd y cae yn fôr o fwd a gwaharddwyd pobl rhag dod â’u ceir ar y cae. Anghyfleustra ydi hyn i garafanwyr ond i bobl y pebyll, mae’n hunllef. O hepgor y car, rydych yn colli eich cegin, eich wardrob a’ch pantri. Mae’n golygu cryn drefnu a dyfeisgarwch. Rhaid i chi fynd â’ch dillad glân gyda chi y noson cynt, gadael i’ch esgidiau yn y car a’u newid am wellingtons, a thaenu eich tywel ar y sedd gefn yn y gobaith y bydd yn sych drannoeth.

Doedd Alex ddim o gwmpas erbyn dydd Sul i warchod fy mhlentyn. “He’s said a naughty word which I can’t say, and he can’t play” eglurodd ei chwaer, Abigail. (Roedd Abby wedi dechrau dod i’n pabell ni am stori cyn cysgu, er na allai ddeall yr iaith.) Ron innau yn rhoi gwersi Wlpan iddi, ac roedd hi’n dweud ‘nos da’ yn berffaith, er mai dim ond pedair oedd hi.

Doedd pobl ddim hanner mor llon erbyn nos Sul. Roedd y glaw ddigon drwg, ond pan ddaeth y gwynt, roedd pethau llawer gwaeth. Bûm yn melltithio fy nghymdogion am adael i’w pabell wneud y fath swn, nes sylweddoli mai ein pabell ni oedd yn rhydd, a dyma godi am ddau o’r gloch y bore i’w chlymu. Unig fantais y gwynt oedd fod y gwdi-h ddiawch wedi ei chwythu i ebargofiant...

Gwawriodd Gyl y Banc, a niwl yn gorchuddio’r cae. Roedd y rhai gwanaf yn ein mysg (yn cynnwys teulu Alex) wedi rhoi’r gorau i frwydro yn erbyn yr elfennau ac wedi dychwelyd i Lannau Merswy. Unwaith eto, canfyddais fy hun yn y ciw golchi llestri tu ôl i’r dyn bach twt oedd yn golchi pob llestr rhyw chwe gwaith i’w cael yn berffaith lân. Roedd golwg wedi blino ar bawb, a phobl yn rhoi’r gorau i’r daith faith i ben draw’r cae (a thros yr afon) i’r llefydd molchi.

Troi’r car i gyfeiriad Llandudno ddaru ni eto a dotio o sylweddoli ei bod yn weddol heulog yno, a’r gwynt dychrynllyd wedi gostegu. Dyma gadw’n sych yn y pwll nofio newydd , (a chael cyfle i ymolchi yr un pryd). Yn y pnawn, dyma drefnu i gyfarfod hen ffrindiau mewn caffi yn Llanrwst, a chael orig ddifyr yn anwybyddu’r tywydd. Fodd bynnag, erbyn cyrraedd y maes parcio, daeth y dilyw, a ninnau’n poeni a fyddai’r afon Conwy yn gorlifo. Rhoi lifft i’n cyfeillion at eu car hwy, a râs am y babell. Erbyn inni gyrraedd y maes pebyll, roedd ein ffrindiau wedi ein dilyn.

“Dowch i’n t ni am swper, da chi” meddent, “does dim synnwyr bod mewn pabell yn y fath dywydd”, ac yn wir, dyna ddaru ni. Gadael yr hen le tamp a chael croeso a phryd o fwyd da ar aelwyd groesawus ym Mhandy Tudur. Ew, braf ydi cael ffrindiau.

Afraid dweud mai nos Lun oedd ein noson olaf mewn pabell. Ron i’n barod i fynd adre cyn fy anffawd y noson honno, ac ni chredwn y gallai pethau fynd yn waeth nac yn llawer gwlypach. Codais ganol nos, ac yn niffyg en-suite, dyma wneud y daith hunllefus drwy’r gwair gwlyb a’r mwd i’r tai bach. Ar lan yr afon, oedais. Fedrwn i roi fy nhraed yn y dr y tro hwn? Lwc fod gen i’r sandalau glan môr... Ond roedd hi’n daith ddigon anodd liw dydd, heb sôn am ganol nos. Petai gen i ddewis, byddwn wedi troi nôl am y ciando. Ond gan geisio bod yn wrol, wynebais y llif, a gyda’r tywyllwch dudew o bobtu i mi, daeth yr emyn frawychus honno i’m meddwl,

‘Ar lan Iorddonen ddofn, rwy’n oedi’n nychlyd’.

Rhoddais fy nhroed ar y garreg gyntaf.

‘O na bai modd i mi, osgoi ei hymchwydd hi’ Carreg dau

‘A hedfan uwch ei lli i’r Ganaan hyfryd’ ..ron i ‘nghanol yr afon.

‘Mae braw ar f’enaid gwan mai boddi fydd fy rhan.’

Meddyliais, yn teimlo’n swp sâl, yn melltithio Bethan Gwanas a’m magwraeth Wesleaidd. Wrth gamu ar y garreg olaf, siglodd honno, collais fy nghydbwysedd, a mewn â fi i’r dr. Yn waeth byth, daeth un o fy esgidiau plastig yn rhydd a mynd i ddilyn y llif. Doedd dim amdani ond mynd i mewn i’r pen dwfn, a’i hachub.

Person trist a gwlyb ddaeth yn ôl i’r babell tua chwarter i dri y bore. Roedd yr holl styrbans wedi fy ysgwyd, a methais gael gafael ar gwsg wedi hynny. Daeth y gwdi-h felltith yn ôl i’m poeni. Ochneidiais. Weithiau, mae’n rhaid i chi gyfaddef fod pethau wedi mynd yn drech na chi.

 

Top Top | Back Back |

E-mail to a friend | Printable version

 

 


Copyright and Trade Mark Notice
© 2010 owned by or licensed to Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
icNorthWales™ is a trade mark of Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
Please read our Terms and Conditions and Privacy Statement before using this site.
 

Find your new job:
 
 
  e.g. secretary