BYDD arddangosfa sy’n dathlu’r perthynas arbennig rhwng Gwynedd a Lerpwl yn agor yn Amgueddfa Bangor brynhawn Sadwrn. Gan mai Lerpwl yw Prifddinas Diwylliant Ewrop eleni, bydd yr arddangosfa yn dathlu'r cysylltiadau agos sydd wedi bod rhwng Lerpwl a Gwynedd dros y tair canrif ddiwethaf. Bydd yr arddangosfa yn edrych ar sut mae’r Cymry yn Lerpwl wedi cyfrannu at a chael eu dylanwadu gan y ddinas.Š Mae’r arddangosfa yn canolbwyntio ar themâu o gymdeithas, gwaith, crefydd, hanes morwrol, addysg a hamdden. Mae’n edrych ar sut a pham y symudodd rhai o bobl Gwynedd i fyw i Lerpwl, un ai’n barhaol neu dros dro gan gyfrannu at dwf y ddinas tra’n cadw eu hunaniaeth Gymreig. Mae’r hyn sydd i’w weld yn yr arddangosfa wedi eu casglu yn dilyn dyddiau agored lle casglwyd pob math o wybodaeth, lluniau a chreiriau am y berthynas rhwng Gwynedd a Lerpwl. Bydd Gweinidog Treftadaeth y Cynulliad, Alun Ffred Jones, a’r Parch D Ben Rees, Lerpwl yn agor yr arddangosfa. Dywedodd Mr Jones: “Mae hanes lleol yn hynod o ddiddorol am mai bywydau pobl gyffredin yw’r testun, nid hanesion brenhinoedd na’r boneddigion. Mae’r arddangosfa yma’n arbennig iawn oherwydd bod pobl leol wedi cyfrannu iddi.” Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards: “Nid yw’r berthynas gyda Lerpwl wedi bod yn un hawdd bob amser, ond does dim amheuaeth fod perthynas arbennig rhwng Lerpwl a Gwynedd.” Bron i dair blynedd yn ôl cyhoeddodd Cyngor Dinas Lerpwl ymddiheuriad am foddi Cwm Tryweryn ger Bala ddeugain mlynedd yn ôl. Diflannodd pentre Capel Celyn, 12 fferm, swyddfa bost, ysgol a chapel, o dan y dwr Llyn Tryweryn sydd bellach yn cyflenwi dinas Lerpwl. Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor o Fedi 6 hyd 25 Hydref. Mae’r amgueddfa ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener (12.30pm-4.30pm) a dydd Sadwrn (10.30am-4.30pm). Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01248 353368 |