icNorthWales - Dal i ganu
Newyddion logo
icNorthWales Daily Post Motors Homes Jobs Wales Dating Yr Herald
Search icNorthWales for:
Yr Herald Cymraeg arrow     


Dal i ganu

Sep 3 2008

by Eryl Crump, Yr Herald Cymraeg

 

BYDD Côr ysgol Glanaethwy yn ymddangos hefo Russell Watson eto nos Sadwrn nesa. Ond ni fydd y tenor yn beirniadu’r côr y tro hwn ond yn cyd-ganu gyda hwy mewn cyngerdd awyr agored yn yr Amwythig.

Roedd Watson yn un o’r beirniaid ar y gyfres deledu poblogaidd Last Choir Standing! Nos Sadwrn diwethaf daeth y côr yn ail agos i’r côr o Gaerdydd Only Men Aloud.

“Roedd y gystadleuaeth yn un wefreiddiol ac yn brofiad ffantastig i bawb. Roeddwn mor falch fod y pobl ifanc wedi medru cyrraedd y ffeinal heb son am fynd yn ben-ben yn erbyn côr arall yn y rownd olaf un. Llongyfarchiadau mawr i Only Men Aloud am ddod yn fuddugol,” meddai Cefin Roberts, un o gyd-sylfaenwyr yr ysgol.

Dychwelodd y côr yn ôl i Fangor yn gynnar fore Sul ac heddiw fe fydd rhan fwyaf ohonynt yn ôl wrth eu desgiau yn ysgolion cylch Bangor, Caernarfon, Môn a thu hwnt.

Ond fe fydd y canu yn dechrau eto cyn hir gyda amryw o gyngherddau’r hydref yma.

“Uchelgais yr hydref bydd rhyddhau CD a cymeryd rhan mewn cyngerdd arbennig i ddathlu ein penblwydd yn 18 oed yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

“Mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd yn gwerthu’n dda a bydd y ddau gôr a chyn ddisgyblion yr ysgol yn cymeryd rhan,” meddai Rhian Roberts, gwraig Cefin.

Sefydlwyd Ysgol Glanaethwy gan Rhian a Cefin wedi iddynt sylweddoli bod angen sefydliad o’r fath yng Ngogledd Cymru.

Er fod amryw o bosibiliadau ar gyfer actorion ifanc yn y byd teledu dim ond llond dwrn o ysgolion Gwynedd sydd ag adran ddrama i feithrin pobl ifanc yn y grefft.

Wedi agor drysau’r ysgol mae 250 o fobl ifanc yn mynychu o leiaf un gwers yr wythnos yno.

Dywedodd Cefin: “Roeddwn wedi hyfforddi sioeau ar gyfer Eisteddfodau’r Urdd a’r Genedlaethol. Roedd y pobl ifanc eisiau parhau hefo’r actio ar ôl y sioe ond doedd na unlle i fynd.

“Ar ddiwedd yr 1980au penderfynais wneud rhywbeth yn ei gylch.”

Er fod rhan fwyaf o’r disgyblion yn dod o ardal Gwynedd a Môn mae rhai yn dod o ardal Trawsfynydd a Blaenau Ffestiniog a Dinbych.

“Rydym yn dysgu drama a dawns i lefel TGAU a lefel A ac rydym yn gweld rhai o’r disgyblion hyd at deirgwaith yr wythnos,” ychwanegodd Rhian.

Mae amryw o’r disgyblion wedi ymddangos mewn sioeau teledu poblogaidd fel Rownd a Rownd a Porc Peis Bach.

Yn y gorffennol mae Ysgol Glanaethwy wedi ennill gwobrau yng nghystadleuaeth Barclays Music Theatre ac wedi cystadlu yn rownd terfynol Music for Youth Festival yn Llundain yn rheolaidd ers 1990.

Maent hefyd wedi teithio i wledydd fel Swisdir, Yr Eidal a Bulgaria.

 

Top Top | Back Back |

E-mail to a friend | Printable version

 

 


Copyright and Trade Mark Notice
© 2012 owned by or licensed to Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
icNorthWales™ is a trade mark of Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
Please read our Terms and Conditions and Privacy Statement before using this site.