icNorthWales - Hel eich bol pan mae’r llanw allan
Newyddion logo
icNorthWales Daily Post Motors Homes Jobs Wales Dating Yr Herald
Search icNorthWales for:
Yr Herald Cymraeg arrow     


Hel eich bol pan mae’r llanw allan

Aug 27 2008

by Eryl Crump, Yr Herald Cymraeg

 

DWI ddim yn meddwl y gall neb honni ei bod hi wedi gwneud haf da eleni! Yn anffodus, ryw dywydd digon bethma mae hi wedi ei wneud a dim cymaint â chymaint o haul er mwyn i ni fedru loetran yng nglan y môr. Nid bod hynny wedi fy rhwystro i rhag mynd i’r traeth, dydi o ddim. Fel y gwyddoch chi bellach. Mi rydw i’n ddigon hapus i dreulio oriau bwygilydd yn piltran ar y traeth.

Mi synnach chi be gewch chi am ddim ar y traeth ac un peth sydd yno, yn rhad ac am ddim ydi gwymon – gwymon bwytadwy. Mae sawl un o’r gwymon sy’n tyfu ar y traeth yn fwytadwy, a’r amser gorau i’w casglu nhw ydi’r gwanwyn a’r haf. Felly dowch i ni ddechrau ar ran ucha’r traeth – ar y glastraeth. Yma mae letys y môr (Ulva lactuca; Sea Lettuce) yn tyfu. Gwymon gwyrdd sydd i’w weld yn glir mewn pyllau glan môr. Mi fedrwch chi naill ai ffrio hwn neu ei dorri’n fân a’i roi o mewn salad.

Un arall y medrwch chi ei fwyta ydi’r delysg (Palmaria palmata; dulse) ac i lawr ar ran isa’r traeth y gwelwch chi hwn yn glynu naill ai wrth y môr-wiail mawr neu wrth y creigiau. Mae o’n wymon reit arw ac mae’r ffrond yn fflat ac yn rhannu i segmentau reit lydan. Lliw porffor/goch sydd ’na ar y delysg, ac mi fydd y lliw’n dyfnhau wrth i’r haf gerdded. Mi fedrwch gymysgu hwn hefo tatws a menyn a’i fwyta fo, ac yn aml iawn mi fydd pobl yn eu bwyta wedi’i ffrio. Mi fedrwch chi hefyd wneud cawl drwy ei gymysgu hefo llefrith, tatws, menyn, sudd lemwn a phupur du.

A’r môr-wiail mawr, y Laminaria wedyn – mi fedrwch fwyta’r rhain hefyd. Mi fedrwch chi ferwi’r rhain a’u gweini nhw hefo menyn fel llysiau, ac mi fedrwch chi wneud cawl allan ohonyn nhw. Y môr-wiail byseddog (Laminaria digitata) a gwregys y môr (Laminaria sacharina) sy’n cael eu defnyddio fel arfer.

Un arall y medrwch chi ei fwyta ydi’r gwymon codog bras (Ascophyllum nodosum; knotted wrack). A thua canol y traeth y gwelwch chi hwn. Mae o’n wymon hirhoedlog iawn ac mi all fyw am tua deng mlynedd ar hugain.

Mae’r gwymon yma’n cael ei gynhaeafu ar raddfa eang – tua 240,000 o dunelli’n flynyddol o gwmpas arfordir Canada a Norwy er mwyn medru tynnu alginadau o’r gwymon.

Gwymon arall sy’n ddigon cyffredin ar ganol a gwaelod y traeth ydi’r gwymon melys (Chondrus crispus) y ‘carragheen’ neu’r ‘Irish moss’ yn Saesneg. Gwymon bach piws/goch ydi hwn sy’n tyfu i tua 10 modfedd o hyd ac mi welwch chi o hefyd mewn pyllau o ddr yn y creigiau, ac mi fedrwch chi fwyta hwn eto.

Yn yr Iwerddon, maen nhw’n cynaeafu hwn ar raddfa reit fawr, ac mae’r casglu wedi bod yn gynaladwy am fod casglwyr yn ymwybodol o faint o’r gwymon melys oedd yn cael ei gynhyrchu’n lleol yn flynyddol. Roedden nhw wedyn yn gofalu mai dim ond y darn uchaf o’r ffrond roedden nhw’n ei gasglu gan adael y gwaelod a’r angor ar ôl er mwyn i’r gwymon dyfu eto.

Mae’r nodweddion arbennig sydd gan y ‘carrageenan’ yn ddefnyddiol iawn i wneud jeli ac i dwchu bwyd yn y diwydiant bwyd. Ar un adeg roedd y ‘carrageenan’ yn cael ei gymysgu hefo lemwn neu goco i wneud ffisig ar gyfer anhwylder ar yr ysgyfaint.

Un arall rydan ni’n gyfarwydd iawn â’i fwyta yma yng Nghymru ydi’r Llafwr (Porphyra purpurea). Y ‘purple laver’ ydi’r enw cyffredin arno fo yn Saesneg, a hwn sy’n cael ei gynaeafu a’i werthu fel bara lawr yn Ne Cymru. Ac wrth gwrs yn cael ei ffrio hefo cig moch i frecwast. Lliw piws neu goch tywyll sy gan y gwymon yma.

Mae yna tua 70 o wahanol rywogaethau o’r llafwr dros y byd i gyd, ac mae o’n cael ei werthu fel Nori mewn siopau sy’n gwerthu bwydydd Asia ac mewn bwytai sushi. Yn Japan mae’r llafwr neu’r ‘Nori’ yn cael ei gynaeafu, ag yno mae tua 150 o filoedd o erwau o arfordir Japan yn cael eu neilltuo i gynhyrchu’r cnwd yma. Dros dri chan tunnell ohono. Mae hwn yn werth dros biliwn o ddoleri bob blwyddyn. Mae China hefyd yn cynhyrchu cnwd sylweddol yn flynyddol gan wneud y llafwr yn un o’r cnydau mwyaf gwerthfawr sy’n cael ei ffermio yn y môr.

Mae bwyta gwymon i fod yn dda i chi os ydach chi’n dioddef o glefydau’r galon, a hefo cricymala. Mae o hefyd i fod yn beth da i reoli lefelau siwgr yn y gwaed, ac mae gwymon yn llawn mwynau a fitaminau. Maen nhw’n llawn o ffibr ac yn rhydd o galorïau!

Fel deudis i, y gwanwyn a’r haf ydi’r amser gora i gasglu gwymon – ond gofalwch fod y traeth yn lân. A chofiwch fynd yna pan mae’r llanw allan!

Bethan Wyn Jones

 

Top Top | Back Back |

E-mail to a friend | Printable version

 

 


Copyright and Trade Mark Notice
© 2012 owned by or licensed to Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
icNorthWales™ is a trade mark of Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
Please read our Terms and Conditions and Privacy Statement before using this site.