BYDD nifer o leisiau a rhaglenni newydd i’w clywed ar slot C2 ar Radio Cymru o’r Hydref ymlaen. Mae’r orsaf wedi penderfynu ail-wampio’r slot 8pm-1am Llun i Gwener, ac ymhlith y lleisiau fydd i’w clywed mae’r cynhyrchydd a’r cerddor, Dyl Mei (dde). Ond y gyflwynwraig o Bontypridd, Magi Dodd, fydd yn cymryd yr awenau rhwng 8-10pm gyda Glyn Wise, ei phartner cyflwyno, yn ymuno â hi am ddwy raglen yr wythnos. Cerddoriaeth newydd ac amrywiol a pherfformiadau byw sy’n mynd â bryd Huw Stephens (dde, pellaf) a Lisa Gwilym ill dau ac fe fyddan nhw’n rhannu eu gwybodaeth a’u dewisiadau cerddorol gyda gwrandawyr rhwng 10-11pm gyda’r naill a’r llall yn cyflwyno dwy raglen mewn wythnos. Mae’r slot nos Fercher rhwng 10-11pm eisoes wedi gweld cyfresi amrywiol yn cynnwys Geraint Jarman, Y Stafell Werdd ac C2 yn y Ciwb gyda Ryland Teifi. Y bwriad yw datblygu mwy ar y cyfresi hyn a bydd Rhys Mwyn, Owen Powell, Huw Evans a Dyl Mei ymysg y lleisiau newydd fydd i’w clywed dros y misoedd nesaf. Bydd Daf Du yn cyflwyno nifer o raglenni yn ystod yr wythnos rhwng 11pm-1am a bydd Jeni Lyn yn dod â’r penwthnos i ben gyda sgwrs a cherddoriaeth yn ei rhaglen newydd hithau rhwng 11pm-1am ar nos Sul. Yn ôl Siân Gwynedd, Golygydd BBC Radio Cymru, mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i C2. “Mae pum mlynedd bellach ers sefydlu C2 ac mae’r gwasanaeth wedi datblygu llawer yn ystod y cyfnod yma,” esbonia Siân. “Mae’r newidiadau yn adlewyrchu llwyddiant diweddar yr orsaf yn denu mwy o wrandawyr ifanc. Rhaid i ni sicrhau fod digon o raglenni yn yr amserlen i’w diddanu nhw yn ogystal â’r to hyn o wrandawyr ffyddlon.” |