icNorthWales - Mae’n debyg bod ’na well ‘fizz’ yn fy stwff i na’r lleill!
Newyddion logo
icNorthWales Daily Post Motors Homes Jobs Wales Dating Yr Herald
Search icNorthWales for:
Yr Herald Cymraeg arrow     


Mae’n debyg bod ’na well ‘fizz’ yn fy stwff i na’r lleill!

Sep 3 2008

by Eryl Crump, Yr Herald Cymraeg

 

WEL, dyna be oedd wythnos brysur. Mi ddechreuodd ar ddydd Llun Gyl y Banc efo Sioe Rhydymain. Ond ro’n i wedi bod yn brysur dros y penwythnos yn coginio ac ati ar ei chyfer hi wrth gwrs. Ro’n i’n benderfynol o gystadlu eleni am ddau reswm:

1 Do’n i ddim yno llynedd am mod i’n Tseina (yn dilyn yr afon Yangtze, ac mi fydd y rhaglen honno i’w gweld ar S4C toc).

2 Roedd ‘Byw yn yr Ardd’ yn dod i ffilmio’r cwbl felly ro’n i isio gwneud sioe golew ohoni wrth reswm.

Ro’n i wedi gwneud mins peis a chacen afal (efo fy afalau fy hun...) ar y dydd Sadwrn, ond redais i allan o amser ac amynedd i wneud pâté. A nos Sul, tua un y bore ar ôl bod allan yn dre gofiais i mod i angen gwneud saig efo cig oen. Tasech chi wedi gweld y golwg ar y popty fore Llun ... Ta waeth, roedd gen i boteli o siampên blodau ysgawen yn y sied ers wythnosau hefyd.

Cyrhaeddodd Daniel fy nai i roi help llaw i mi jest cyn naw y bore, ac roedd yntau wedi bod yn brysur y diwrnod cynt yn gwneud cerflun allan o bethau wedi eu hailgylchu. Clamp o robot wnaeth o gyda llaw, allan o focs esgidiau a photeli plastig.

Iawn, i ffwrdd â ni rownd yr ardd yn hel blodau a chwilio am unrhyw lysiau oedd yn ffit i’w dangos. Roedd angen tri pen Blodyn Cleddyf a dim ond dau oedd gen i, drapia. Ac roedden nhw’n gofyn am naw coesyn o bys pêr (sweet peas) ond dim ond rhyw dri oedd gen i oedd heb droi’n slwtsh brown. Stwffio’r rheiny felly a jest hel unrhyw flodau oedd yn edrych yn weddol er mwyn eu rhoi yn y gystadleuaeth ‘Ffiol o flodau’. O, a chasgliad o berlysiau.

Iawn, y llysiau nesa. Roedd angen unai pedair taten gron neu hirgron a doedd gen i ddim syniad pa siap oedd fy rhai i nes i Daniel ddechrau palu. Hirgrwn oedden nhw ond doedd na’m llawer ohonyn nhw a tipyn o job oedd trio dod o hyd i bedair oedd yn weddol debyg o ran siap a maint. Roedd fy nionod yn edrych yn pathetic – roedd gen i un oedd yn anferthol, ond roedd angen tri oedd tua’r un maint, yndoedd? O wel, dyma godi tri bychan (oedd â rhyw sbotiau tywyll arnyn nhw am ryw reswm). Roedd angen chwech codyn o bys, ond dim ond un oedd gen i, diolch i’r malwod, felly mi fwyton ni hwnnw, a blasus iawn oedd o hefyd. Ond roedd fy nghorffa (dwarf beans) yn weddol, felly mi gafodd Dan y job o ddod o hyd i chwech oedd yn gymharol iach yr olwg. Ro’n i’n gwybod nad oedd pwynt trio codi’r moron.

Roedd fy nhrilliw ar ddeg (hydrangea) yn hynod siomedig. Wel, chwarae teg, maen nhw angen haul tydyn, ac yn y cysgod mae fy rhai i ers wythnosau. Ond mae coed Mam mewn lle gwell ac yn llawn blodau felly ro’n i wedi dwyn ei rhai hi bnawn Sul. A llnau’r vases i’w dal nhw. Ew, mae angen cryn baratoi ar gyfer y sioeau ma, yndoes?

Iawn, llwytho bob dim i gefn y fan ac i ffwrdd â ni i neuadd Rhydymain oedd yn llawn o bobl yn focsys a dahlias i gyd. Brysio i gofrestru a thalu am bob cynnig – 17 i gyd os cofia i’n iawn. Roedd coes robot Dan yn dechrau dod yn rhydd ond llwyddwyd i’w osod ar y bwrdd mewn pryd. Roedd fy saig cig oen yn edrych yn sglwtsh blêr o glingffilm erbyn i mi gyrraedd y bwrdd bwyd, ond mae sbrigyn ffres o rosmari ar ei ben o’n gwneud gwahaniaeth mawr. Benthyg doili ar gyfer y mins peis gan Catrin (mae angen doilis mae’n debyg ac ro’n i wedi anghofio prynu rhai), stwffio fy nghacen afal i ganol dwsinau o rai smart iawn yr olwg, gosod fy mhoteli siampên yn daclus a gyrru Dan i osod y llysiau efo’r pethau lleol (do’n i ddim am fentro efo’r rhai ‘agored’, debyg iawn).

AAAA! Y ffiol o flodau! Doedd na’m amser i osod yn gall a thaclus, felly mi fuon ni’n dau jest yn taflu’r blodau i mewn drifflith drafflith, yn y gobaith y byddai’n edrych fel ffrwydriad creadigol. Roedd y criw ffilmio wedi dechrau chwerthin erbyn hyn, y crincs. Dal i redeg o gwmpas fel iâr ro’n i.

Ffiw, roedden ni jest mewn pryd – roedd y beirniaid wedi cyrraedd. Roedd y criw ffilmio’n aros efo’r rheiny ac aeth Dan â fi i’r cefn am baned a brechdan – neu dair. Mae brechdanau ‘go iawn’ felna gymaint neisiach na rhai unrhyw siop neu gaffi, tydyn? A dyna pryd gofiais i nad o’n i wedi cael brecwast.

Ro’n i wedi dod â Del efo ni hefyd am mod i am weld sut hwyl fyddai hi’n ei gael yn y dosbarth ci defaid, felly mynd â hi am dro rownd a rownd y neuadd a heibio’r defaid fuon ni tra bu’r beirniaid wrthi’n y neuadd – am oes. Roedd ’na ddefaid da iawn yno gyda llaw – prilim bach cyn y Sioe Sir.

O’r diwedd, roedd y Llywydd yn cael gwneud ei araith a phawb yn cael tyrru i mewn drwy ddrws y neuadd i weld pwy oedd wedi cael be. Ro’n i braidd yn nerfus erbyn hyn. Be taswn i’n cael affliw o ddim efo dim – a’r camera’n gweld y cyfan? O leia ro’n i’n saff efo fy nionod – dim ond fi oedd wedi cystadlu efo’r rheiny yn yr adran leol.

Robot Daniel gynta – a nefi wen, tystysgrif coch myn coblyn! Roedd o wedi gwirioni. Troi i sbio ar y blodau – a nefoedd yr adar! Roedd ein ffiol wedi cael cynta! Dim ond dau oedd yn trio, ond nid dyna’r pwynt naci? Ymlaen â ni gan wichian a gwenu a hei-ffeifio. Ail am fy nghorffa! A thrydydd efo’r tatws! Cymysgedd o ail a thrydydd am fy nghoginio i gyd, ac yna, y sioc fwya – o flaen fy mhoteli siampên sgawen, roedd na un tystysgrif coch ac un glas.

Wel, ro’n i wedi mopio. Mae’n debyg bod ’na well ‘fizz’ yn fy stwff i na’r lleill.

Sioe fechan iawn, iawn ydi un Rhydymain, ond argol, mae’n hwyl. Do, es i i’r Sioe Sir hefyd – ond wnes i’m cystadlu. Ond os fydd na gystadleuaeth siampên sgawen yno flwyddyn nesa... wel, diawcs, dwi’m gwaeth na thrio nacdw?

 

Top Top | Back Back |

E-mail to a friend | Printable version

 

 


Copyright and Trade Mark Notice
© 2012 owned by or licensed to Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
icNorthWales™ is a trade mark of Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
Please read our Terms and Conditions and Privacy Statement before using this site.