icNorthWales - Nid yn y môr yn unig mae trysor
Newyddion logo
icNorthWales Daily Post Motors Homes Jobs Wales Dating Yr Herald
Search icNorthWales for:
Yr Herald Cymraeg arrow     


Nid yn y môr yn unig mae trysor

Sep 3 2008

by Eryl Crump, Yr Herald Cymraeg

 

ROEDD hi’n bnawn bendigedig o braf wrth i mi adael Porth yr Ynys. Roedd ‘na awel braf o’r môr a phobl, plant a chn yn mwynhau eu hunain yn chwilota ar y traeth. Roedd criw o ddynion a llanciau ifanc yn pysgota oddi ar Drwyn y Grupyl ac eraill wedyn yn mwynhau eu hunain mewn cychod a chanwod ar y môr. Dal ymlaen ar lwybr yr arfordir wnes i, gan basio Bythynnod y Swnt a mynd yn fy mlaen i’r penrhyn.

Mwdlyd braidd oedd y llwybr ar ôl yr holl law rydan ni wedi’i gael, ac yn y fan yma, mae’r llwybr yn gyfochrog ag Ynys Moelfre. Roedd yr ynys yn un shwrwd o wylanod gwynion ac ar y pen pellaf, nifer o fulfrain du wedi hel at ei gilydd ac yn dal eu hadenydd i’r gwynt sychu eu plu. Ar ochr y llwybr, roedd yr efwr a’r ysgall wedi mynd i had, llysiau’r gingroen yn llachar felyn a’r mwyar yn aeddfedu’n braf yn yr haul yn llawn addewid am gnwd go dda. Cri’r gwylanod o Ynys Moelfre a’r cacwn yn suo wrth fela yn y bengaled.

Ar y penrhyn mae cofeb wedi’i chodi i aelodau dewr bad achub Moelfre wnaeth achub criw'r Hindlea yn niwedd Hydref 1959. Mae yma sedd hefyd a chyfle ardderchog i eistedd a mwynhau’r olygfa. I’r dde i mi roedd ochrau Llanddona a Phenmon, yn syth o fy mlaen Pen y Gogarth, ac i’r chwith roeddwn yn gweld tr Eglwys Llanwenllwyfo, Llys Dulas yn swatio yn y coed, caeau yd yn aeddfedu yng ngwres diwedd Awst ac Ynys Dulas yn y môr. Mae’r creigiau yn disgyn yn serth i lawr i’r môr o’r penrhyn yma ac mae’r cen melyn a du ar y graig yn dyst i ba mor uchel a pha mor bell mae trochion yr ewyn yn cyrraedd pan fo’r gwynt o’r môr. Roedd gweddillion clustog Fair yma hefyd, a’u pennau sidanaidd yn cael eu chwalu gan y gwynt.

Dal i gerdded ymlaen roeddwn i rownd y penrhyn a gweld islaw i mi ble y drylliwyd yr Hindlea ar y creigiau. Yr ysgawen oedd yr unig goeden welais i’n tyfu ar y penrhyn yma; roedd y blodau’n llorweddol a’r gwair yn isel - arwydd clir o ba mor wyntog mae’n gallu bod yma. Roedd yr heboglys yn tyfu’n isel yn y gwair ac roedd yr iâr wen fawr yn hedfan yn osgeiddig o flodyn i flodyn, ac roedd hyfrydwch a thawelwch pnawn braf ddiwedd Awst i’w deimlo o’m cwmpas.

Ymlaen mae’r llwybr yn arwain wrth ochr waliau cerrig sydd wedi cael eu hailgodi – ond mae’r cen unwaith eto yn dangos pa mor uchel a pha mor bell mae diferion yr heli yn cyrraedd. Roedd pobl yn hamddena’n braf, ambell un yn cael picnic a rhai eraill yn hedfan barcut a hadau’r ysgall yn chwyrlïo o’u cwmpas.

Ar ochr y llwybr mae t bychan, bach mewn gardd ar ei ben ei hun a choed cyll yng ngwaelod yr ardd ac mae’r olygfa o’r t yn siwr o fod yn wych. 'Sgwn i pwy sy’n ddigon lwcus i fod yn byw yma? Ond mae ’na giât mochyn ac mae’r llwybr rwan yn arwain rhwng dau glawdd, ac ydi mai’n ddigon mwdlyd dan draed. Mae llys y llwynog yn dal yn ei flodau a’r danadl poethion a llydan y ffordd, ond does yna ddim cymaint â hynny o flodau i’w gweld, ond wedyn, mae’n ddiwedd haf, a be sy i’w ddisgwyl?

Peth braf ydi gweld fod rhywun wedi cael y weledigaeth o roi seti, naill ai o bren neu o lechen, yma ac acw ar y llwybr er mwyn i rywun gael pum munud bach bob hyn a hyn.

Trwy’r maes carafanau mae’r llwybr yn arwain ac mae ’na giât mochyn arall. Wrth ochr hon mae’r blodyn neidr wedi dechrau hadu, ac mae’r llestr sy’n dal yr hadau yn un trawiadol. O’r fan yma, mae grisiau cerrig serth yn arwain i lawr i Draeth Helaeth. Mae nant fechan yn byrlymu i lawr i’r traeth a phompren yn ei chroesi, ac mae’r dr croyw a’r man gwlyb o boptu’r nant yn rhoi amrywiaeth o blanhigion i ni. Yr erwain a’r helyglys hardd sy’n amlwg yma a hefyd yr ysgall a’r cedowydd. Yma hefyd, yn glynu at ddeilen ar waethaf y gwynt mae’r copor bach (Lycaena phlaeas; small copper) yn rhyfeddol o hardd yn ei lliwiau oren a du. Roedd digon o ddail tafol o gwmpas, ac mae’n bur debyg mai ar ddail y rhain y byddai’r lindys wedi bod yn bwydo.

Yn y darn gwlyb yma, roedd mintys y dwr (Mentha aquatica, water mint) sy’n blanhigyn hawdd iawn i’w adnabod. Mae ganddo ben o flodigau bach pinc, ac mae’r dail gyferbyn â’i gilydd mewn parau ac yn union ‘run fath â dail mintys. Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, yna rhwbiwch y dail rhwng eich bys a’ch bawd ac mi wnewch ddarganfod yn syth oddi wrth yr arogl mai mintys ydyn nhw.

Mae grisiau cerrig serth yn codi o’r fan yma, ac wedi cyrraedd y top rydan ni’n gweld draw am ochrau Dulas unwaith eto, ond yma, rydw i’n troi i’r chwith ac yn cerdded mymryn o fryn i gyrraedd at Gofeb y Royal Charter. Fe yrrwyd y Royal Charter ar y creigiau ym mis Hydref 1859, ganrif union cyn i’r Hindlea gael ei dryllio bron yn yr union fan. Ar ddiwrnod mor braf â heddiw, mae’n anodd dychmygu sut y gallai storm mor arw fod wedi dryllio’r llong mewn lle mor dangnefeddus.

Wrth ddychwelyd at y llwybr, rydw i’n gallu gweld y slabiau mawr o greigiau ble’r hyrddiwyd y Royal Charter arnyn nhw. Heddiw, mae’r môr yn llonydd a’r dwr yn glir ac mae deifwyr yn plymio i’r dyfnderoedd i weld os oes ‘na rywfaint o’r trysor yn weddill ar wely môr. Tasa nhw ddim ond yn sylweddoli mae yna drysor amgenach o lawer ar y lan – yn lliw a llun y blodau, yn suo’r cacwn wrth fela, yn hedfan gosgeiddig y gloÿnnod byw ac ym mrefiadau’r defaid yn y pellter.

O’r fan yma mae’r llwybr yn arwain ymlaen heibio’r Moryn a Phorth Forllwyd nes yn y diwedd cyrraedd traeth eang, braf Lligwy.

 

Top Top | Back Back |

E-mail to a friend | Printable version

 

 


Copyright and Trade Mark Notice
© 2012 owned by or licensed to Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
icNorthWales™ is a trade mark of Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
Please read our Terms and Conditions and Privacy Statement before using this site.