DIOLCH yn fawr i Elizabeth Roberts, Penrhyndeudraeth am ei llythyr yn cyfeirio at ei mam, Mary Thomas o Forfa Nefyn, oedd yn defnyddio planhigion meddyginiaethol. Roedd yn ddiddorol ei bod yn defnyddio llygad Ebrill fel un o’r planhigion i drin clwy’r marchogion. Roedd yna dybiaeth os oes planhigyn neu ddarn o blanhigyn yn edrych yn debyg i anhwylder fod modd defnyddio’r planhigyn hwnnw ar gyfer y driniaeth. Mae gwreiddiau llygad Ebrill yn edrych yn hynod o debyg i glwy’r marchogion (piles). Llysiau’r dryw (Agrimonia eupatoria, agrimony) oedd un arall o’r cynhwysion. Yn anffodus, does gen i ddim llun o lysiau’r dryw - tybed oes gan rywun un? Biti garw nad ydan ni’n gwybod beth oedd y trydydd planhigyn. Diolch iddi hefyd am gyfeirio at y defnydd o saets ar gyfer gwallt sy’n dechrau britho – mi fydd yn rhaid i mi drio hwn fy hun! Diolch hefyd i C. P. Owen, Llanrug am y gwahanol ddefnydd a wneid o ddail tafol. Mi rydach chi’n hollol iawn, mi roedd y byd yn llawer gwyrddach erstalwm yn doedd? Diddorol hefyd oedd llythyr Bessie Owen, Niwbwrch yn cyfeirio at berthynas iddi yn mynd i hel pesgwyn er mwyn gwneud gwely. Difyr ynte? Sgwn i os oes gan eraill atgofion tebyg. Tybed oedd pobl yn fwy darbodus erstalwm ac yn mynd ati i wneud pethau fel cribinio rownd y cae gwair a chasglu gwlân oddi ar y drain er mwyn ei ddefnyddio. Mi fyddai’n hynod o ddifyr cael clywed yr atgofion a chael gweld ambell lun. Llawer o ddiolch i bawb sy’n ysgrifennu, a da chi, daliwch ati! Gwefan Llên y Llysiau: www.llenyllysiau.com; Llythyr: Yr Herald Cymraeg, Blwch Post 202, Cyffordd Llandudno, Conwy LL31 9ZD; e-bost: yrheraldcymraeg@dailypost.co.uk |