icNorthWales - Perfformiad siriol yn y Speigltent
Newyddion logo
icNorthWales Daily Post Motors Homes Jobs Wales Dating Yr Herald
Search icNorthWales for:
Yr Herald Cymraeg arrow     


Perfformiad siriol yn y Speigltent

Sep 3 2008

by Eryl Crump, Yr Herald Cymraeg

 

FE gefais wahoddiad diddorol a chymharol annisgwyl yr wythnos diwethaf. A dweud y gwir roedd yn wahoddiad munud ola a bu rhaid ymateb yn sydyn i’r gwahoddiad os oeddwn am fynd. Diwrnod o rybudd gefais – “a hoffwn i ddod fyny i Gaeredin i weld perfformiad gan y grwp Kerieva yn y “Byd Enwog “ Speigltent”? Rwan roedd y syniad o gael trip i Gaeredin yn rhy dda i’w wrthod a munud sicrheais fod modd cyrraedd mewn pryd ar y trên (doedd hedfan ddim yn gwneud synnwyr economaidd) dyma dderbyn y gwahoddiad gyda balchder a brwdfrydedd.

Mae na flynyddoedd ers mi fod yng Nghaeredin, ar un adeg roedd yr Anhrefn yn canu yno o leiaf dair gwaith y flwyddyn ond mae digon o amser wedi mynd heibio ers hynny i mi deimlo dipyn o wefr wrth feddwl am ymweld â’r ddinas hyfryd hon. Er mai diwrnod o rybudd gefais, roedd yn rhaid gwneud o leiaf ychydig o waith ymchwil cyn mynd. Fydd na ddim amser i mi gael bod yn “dwrist” felly dwi ddim am gael gweld y dynion bach “Chess” yn yr Amgueddfa Genedlaethol nag ymweld ac unrhyw oriel gelf. Yr oll fydd yn bosib ar yr ymweliad yma fydd gweld y Spiegeltent, gweld y grp, gobeithio cael pryd o fwyd da wedyn a dal y trên yn ôl.

Pabell gron sydd yn perthyn i’r traddodiad Sipsiwn yw’r Spiegeltent, pabell sydd yn teithio’r byd i wyliau Sipsiwn yn ogystal â digwyddiadau gwerinol. Yn wahanol i bebyll syrcas mae llawr pren tu mewn a byrddau a chadeiriau o amgylch cylch allanol y babell felly mae’r tu mewn yn debycach mewn awyrgylch i glwb cabaret. Gyda drychau ar bob polyn mae’n atgoffa rhywun o babell ffair gyda rhyw elfen arall fydol hudol dirgel.

Wrth i mi gyrraedd gerddi Sgwar Sior ar gyrion ardal y Meadows cymerais rai munudau i gymeryd yr holl beth i mewn. Roedd y gerddi yn orlawn o bebyll a stondinau, bar wrth gwrs a wedyn y Spiegeltent ei hun, gyda pren coch ar ei ochr a’r to wedyn yn codi i’r awyr yn drawiadol, yn hen ffasiwn gyda ôl teithio arno. Roedd y ffair wedi dod i’r gornel bach wyrdd a distaw yma o Gaeredin, pellter cerdded o’r Filltir Frenhinol ond ychydig i ffwrdd o’r bwrlwm. Roedd yr awyrgylch o goed, dail wrth draed, a’r teimlad arbennig yna mae rhywun yn ei gael mewn gerddi mewn dinas yn gweddu – ychydig bach o wyrddni a chanu adar yng nghanol y tarmac a’r traffig.

Wrth gamu mewn i’r babell mae’n cymeryd rhai eiliadau i’r llygaid ddygymod â’r tywyllwch. Mae’r babell yn wag heblaw am un dyn bach ar y llwyfan yn gosod ei tablas. Dwi wedi bod mewn cymaint o gigs dros y blynyddoedd does neb byth yn gofyn pwy ydw i neu be dwi’n wneud yno – mae’n rhaid fy mod yn edrych fel “manager” go iawn. Cerddodd ambell i berson technegol heibio ond neb yn cymeryd unrhyw sylw ohonof. Mentrais i gefn y llwyfan lle roedd ambell i gerddor yn ymarfer neu tiwnio a chwliais am ystafell newid Kerieva.

Wrth i mi roi fy mhen rownd y drws dyma ddarganfod Kerieva, y gantores Sipsiwn, sydd wedyn yn rhoi ei henw i’r grp cyfan, yn ymbincio yn ei trailer bach. Eto rwyf wedi arfer cymaint gyda phobl yn newid ac ymbincio gefn llwyfan, ni theimlais yn ddigywilydd, yn camu mewn ac yn cyflwyno fy hyn. Wedi’r cwbl, hi oedd wedi ymestyn y gwahoddiad, o fewn eiliadau roedd y ddau ohonom yn hen ffrindiau a mor falch fy mod wedi gwneud yr ymdrech i deithio fyny i Gaeredin ar fyr rybudd. Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn edrych ymlaen i’r sioe. Wrth i Kerieva gychwyn newid i’w dillad llwyfan, fe es inna allan am dro arall. Fe welai chi ar y llwyfan... pob lwc gyda’r perfformiad............

Tu allan yn y gerddi rwyf yn cael sgwrs gyda Douglas, trefnydd y digwyddiad yma ac un o gydlynwyd y Spiegeltent. Mae’n esbonio fod rhai o’r bobl leol yn gwrthwynebu cael digwyddiad o’r fath yn “eu gardd gefn” fel petae ac eto dyma naws a natur Caeredin dros gyfnod yr yl Ymylol dros Fis Awst. Bydd eu sioe nesa meddai o flaen T Opera Sydney, bydd yn cymeryd chwe wythnos i gludo’r babell yno dros y môr a diwrnod yn unig i godi’r babell. Dyma fenter wirioneddol rhyngwladol a dyma eu 23ain mlynedd yn yr yl Ymylol er y gwrthwynebiad lleol. Wrth i amser y perfformiad agosau rwyf yn diolch i Douglas am y sgwrs a chwilio am le addas i eistedd tu mewn lle gallaf wylio’r band ond heb fod yn y gynulleidfa.

Am yr awr nesaf rwyf yn cael mwynhau gwledd o gerddoriaeth Sipsiwn aml-ieithog, yn iaith y Sipsi, Eidaleg, Hwngaraidd a Rwmanaidd. Rwyf yn dysgu am gefndir y caneuon wrth i Kerieva gyflwyno na allwn fod wedi eu deallt wrth wrando ar y geiriau yn unig ond dydi’r aml-ieithrwydd ddim yn fy mhoeni o gwbl nac yn amharu o gwbl ar y darluniau rwyf yn greu yn fy mhen. Mae un cân benodol yn sôn am y Sipsiwn yn cael eu herlid gan y Naziaid sydd yn atgoffa rhywun mae nid yr Iddewon yn unig gafodd eu herlid. Cofiais hefyd fod bobl hoyw wedi cael yr un driniaeth – mae hilioldeb yn glefyd sydd yn targedu aml-ddiwylliant ac aml hil ac aml ffordd o fyw.

Fel arall mae’n rhaid dweud fod y perfformiad yn un siriol a hwyliog, y naws yn bennaf yn un o gerddoriaeth yr hen Ddwyrain Ewrop ond gyda cherddorion o China, Sbaen a’r Alban yn y grp roedd yr holl beth yn teimlo’n agored ac yn ymestyn gwahoddiad i bawb fod yn rhan o’r perfformiad. Ar ddiwedd y perfformiad sylwais fod nifer o’r gymuned Sipsiwn yn cyfarch eu gilydd, mae na ddefodau bach ac arferion bach dirgel ond eto rhywsut mae rhywun yn arfer cymaint â hyn wrth deithio dwi o hyd yn gwenu – dwi’n gyfuniad od o fod yn rhan ac ddim yn rhan. Y brif gantores roth y gwahoddiad ac eto does neb yn fy adnabod..... dwi ddigon hapus.

Yn y bar wedyn, ychydig o eiliadau mae’n gymeryd... “you from Wales? I’ve been to Wales .....” a dyma sgwrsio hefo pobl hollol dieithr. Ar ôl i Kerieva orffen ysgwyd dwylo a chusanu bochau dyma groesi’r sgwar i fwyty Dwyrain Affrica, croesi ffin arall a chael gwledd o fwyd y tro yma. Dwi mor falch i mi ddweud ie!

 

Top Top | Back Back |

E-mail to a friend | Printable version

 

 


Copyright and Trade Mark Notice
© 2012 owned by or licensed to Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
icNorthWales™ is a trade mark of Trinity Mirror North West & North Wales Limited.
Please read our Terms and Conditions and Privacy Statement before using this site.