Bydd Rheilffordd yr Ucheldir ym Mhorthmadog erbyn Pasg nesaf BYDD trenau yn rhedeg ar hyd Rheilffordd yr Ucheldir rhwng Rhyd Ddu a Phorthmadog erbyn Pasg flwyddyn nesaf. Mae’r gwaith o ail-adeiladu’r 13 milltir rhwng yn ddau fan ar amser, meddai swyddogion. Ym Mhorthmadog bydd teithwyr yn medru cario ymlaen i Flaenau Ffestiniog. Bydd y siwrnai 40-milltir, sy’n cychwyn yng Nghaernarfon a sy’n mynd drwy ardaloedd mwyaf prydferth Gogledd Cymru, yn y lein fach hiraf ym Mhrydain. Yr wythnos diwethaf llwyddodd peiriannwyr i osod y darnau olaf o drac ger y Traeth ym Mhorthmadog i gwblhau’r lein. Dywedodd Paul Lewin, rheolwr Rheilffordd Ffestiniog sy’n gyfrifol am y cynllun uchelgeisiol, bod cryn dipyn o waith i’w wneud eto cyn bydd trenau yn medru rhedeg. Meddai: “Rydym ar amser i agor yn ystod y gwanwyn flwyddyn nesaf. Er bod lein gyfan bellach rhwng cyrion Porthmadog a Chaernarfon bellach mae na gryn dipyn o waith i’w wneud eto. Bydd rhaid gosod y giatiau croesi, arwyddion, sicrhau caniatâd gan y cyrff rheoli a tampio’r lein gyfan rhwng Rhydd Ddu a Phorthmadog. Rhaid i ni hefyd gwblhau gosod y trac o Pen Mount (ger Porthmadog) i’r orsaf ger yr Harbwr, creu platfform ychwanegol yn y stesion a gosod mannau pasio ym Mhont Croesor a Hafod y Llan.” Ychwanegodd Mr Lewin bod bras-gynlluniau’r rheilffordd yn galw am dri trên y diwrnod rhwng Caernarfon a Phorthmadog gyda mwy ohonynt yng nghanol yr haf. Ond does dim cynlluniau ar gyfer gwasanaeth uniongyrchol o Gaernarfon i’r Blaenau. “Mae’r cerbydau ar Rheilffordd yr Ucheldir yn fwy na’r rhai sy’n cael eu defnyddio ar Rheilffordd Ffestiniog a dim ond cael a chael mae rheini yn ffitio’r conglau tyn ym mhen uchaf y rheilffordd. Wrth gwrs fe all cerbydau’r Ffestiniog ddefnyddio’r lein i Gaernarfon ond fe fyddwn eisiau rheini ar gyfer y gwasanaeth o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog. “Er mor ddelfrydol fuasai hynny mae’n debyg nad oes galw mawr am wasanaeth o’r fath ac mae’n debyg bydd unrhyw deithwyr sydd eisiau mwynhau 80 milltir o deithio tu ôl i drenau drwy Eryri yn medru newid trên ym Mhorthmadog.” Mae cerbydau newydd ar gyfer y rheilffordd newydd yn cael eu adeiladu yng ngweithfeydd Rheilffordd Ffestiniog yn Boston Lodge ger Porthmadog. “Rydym wedi buddsoddi mwy na £200,000 ar y cerbydau newydd. Mae un ohonynt gyda ffenestri mawr i alluogi pobl i weld yr olygfa ar ei orau. Mae’r ffenestri’n anferth ac mae’r cerbyd cyfan yn foethus iawn. Rwy’n credu mae hwn yw’r cerbyd mwyaf moethus i’w adeiladu ar gyfer lein bach ym Mhrydain. Mae cerbyd arall ar gyfer ein gweithwyr ni, y giard a’r gweinwyr.” Adeiladwyd Rheilffordd yr Ucheldir yn yr 1920au i gysylltu chwareli llechi ardal Betws Garmon a Rhyd Ddu gyda’r prif lein yn Dinas a Phorthmadog. Er fod y peiriannwyr wedi llwyddo’n penigamp i adeiladu lein o gwbl mewn tir mor anodd nid oedd y fenter yn llwyddiant ariannol ac fe gaewyd y lein yn ystod dirwasgiad 1937. Codwyd y cledrau yn ystod y rhyfel. Bu son am ail-agor y lein yn ystod y blynyddoedd. Ail agorwyd ychydig dan filltir o’r lein ym Mhorthmadog ond roedd problemau cyfreithiol yn nadu pob ymdrech pellach draw. Yn ystod y 1990au llwyddodd Rheilffordd Ffestiniog i sicrhau cytundeb gyda’r credudwyr ac yn 1998 rhoddodd John Prescott, y Dirpwy Prif Weinidog bryd hynny, ganiatâd i ailosod y lein. Y flwyddyn flaenorol roedd y rhan gyntaf o’r lein - rhan newydd o Gaernarfon i Dinas - wedi agor. Tywysog Cymru agorodd trydydd rhan y lein o Waunfawr i Ryd Ddu bum mlynedd yn ddiweddarach. Gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud gryn dipyn o’r gwaith ail-adeiladu ac mae nifer ohonynt yn Gymry Cymraeg Dafydd Thomas, cyfarwyddwr Theatr Gwynedd, Bangor yw un o’r gwirfoddolwyr mwyaf selog. Mae wedi gwario oriau lawr yn ystod y 12 mlynedd diwethaf ar y lein. Dywedodd Dafydd: “Mae gennai ddiddordeb mewn trenau ers dyddia ysgol ond do’n i erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen. Y pum milltir o Rhyd Ddu drwy Beddgelert i Nanmor drwy Ceunant Aberglaslyn oedd yr anoddaf i’r hogia oherwydd i troadau parhaol a’r tir yn disgyn o 650 troedfedd uwch y mor.” Roedd balchder mawr pan welwyd y trên stem cyntaf yn rhedeg drwy dwnelau Aberglaslyn fis Ebrill diwethaf am y tro cyntaf mewn 70 mlynedd. Mae busnesau ym Meddgelert yn edrych ymlaen i’r lein ail-agor. Dywedodd un: “Er fod yr haf wedi bod yn un gwlyb mae digon o bobl wedi bod o gwmpas y lle. Mae na nifer fawr ohonynt wedi bod yn gofyn pryd mae’r rheilffordd yn agor. Maent yn gweld y gwaith yn mynd ymlaen ac mae na amryw wedi llogi ystafelloedd erbyn mis Mai nesaf i gael bod gyda’r cyntaf i ddefnyddio’r lein.” Ond nid yw pawb yn croesawu’r rheilffordd. Creuwyd Gwarchod, grp i wrthwynebu’r cynllun dros 10 mlynedd yn ôl. Er eu bod wedi methu perswadio’r awdurdodau i wrthod cais Rheilffordd Ffestiniog maent yn parhau i gadw llygaid barcud ar y gwaith i sicrhau nad oes gwyriad o’r cynlluniau. |