Mae pennaeth cymdeithas dai yn ymddeol wedi 25 mlynedd yn y swydd. Bu’n adrodd peth o’i hanes wrth Yr Herald MAE’R sefyllfa dai yng Nghymru yn waeth heddiw nag erioed, ac mae angen mwy o arian i helpu pobl ifanc gael troed yn nrws y farchnad. Dyna farn John Glyn Jones wrth iddo ymddeol fel prif weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd, ar ôl 25 mlynedd wrth y llyw. “Roedd sôn yng nghanol y 1970au am sefydlu cymdeithasau tai i geisio gwneud rhywbeth i daclo diboblogi yng nghefn gwlad,” meddai. “Sefydlwyd Cymdeithas Tai Gwynedd ac yna Cymdeithas Tai Clwyd, ac eraill. Ond yn gyffredinol, does ’na ddim wedi newid yn y cyfnod yna – os rhywbeth mae’n waeth heddiw nag erioed, pan ydach chi’n cymharu prisiau tai efo cyflogau.” Un o’r pethau cyntaf wnaeth Cymdeithas Tai Clwyd oedd prynu rhes o chwech o dai yn Henllan, am £30,000. “Mi fasa un ohonyn nhw’n costio £100,000 o leiaf y dyddiau yma. “Mae angen mwy o arian i’r cymdeithasau tai. Mae’r Cynulliad yn talu grantiau i’r cymdeithasau bob blwyddyn, ond dydi’r arian hwnnw ddim yn cynyddu digon i ateb y galw.” Mae John Glyn yn wyneb a llais cyfarwydd i selogion y Babell Lên a Thalwrn y Beirdd ers blynyddoedd, ac yn enwog am ei hiwmor sych. A dyna yw un o’r pethau y mae’n edrych ymlaen ato ar ôl ymddeol – mwy o amser i gynganeddu a barddoni, ac efallai gystadlu. “Ar wahân i’r Talwrn dydw i ddim yn cystadlu, ond hwyrach y dylwn wneud rhywbeth i gefnogi eisteddfodau bach,” meddai’r gr 60 oed. Yn frodor o Ddinbych, wedi ei fagu ar fferm gyfagos, dechreuodd gynganeddu pan ddychwelodd i’r dref ar ôl cyfnod yn gweithio fel darlithydd amaethyddiaeth mewn coleg yn Lloegr. Dechreuwyd dosbarth cynganeddu mewn tafarn leol, gyda Gwilym R Jones, neb llai, yn athro. “Mi gawson ni flas ar y peth, ac yn fuan iawn fe ffurfiwyd tîm Talwrn y Beirdd Dinbych, ac roeddan ni’n cystadlu mewn cynghrair lleol oedd yn cyfarfod unwaith y mis. Roedd hwnnw’n gyfle i loywi’r grefft achos roeddach chi’n gorfod gwneud pethau ar y pryd, yn hytrach na chael pythefnos fel sy’n digwydd efo tasgau’r Talwrn.” Ond er ei fod yn un sy’n tueddu i weld yr ochr ddoniol ar bethau, mae’n fwy tebygol o wyro tuag y dwys yn hytrach na’r doniol wrth gyflawni un o dasgau’r Talwrn er enghraifft. “Yn fy marn i mae sgwennu englyn doniol yn dipyn mwy o gamp na sgwennu un dwys, er fy mod yn mwynhau sgwennu rhai ysgafn. Fydda i ddim yn cyfansoddi’n rheolaidd beth bynnag, ar wahân i englyn ar gyfer cerdyn Nadolig bob blwyddyn, tasgau’r Talwrn neu pan fydd rhywun yn gofyn am englyn priodas neu englyn coffa. Felly mae’n debyg fy mod yn sgwennu mwy o englynion dwys yn hytrach na rhai ysgafn. Dwi’n gobeithio y câf fwy o amser i ysgrifennu rwan.” Yn dad i dri o blant, mae o hefyd yn gobeithio gweld mwy ar ei dair wyres. Bu wrth lyw’r gymdeithas dai ers 25 mlynedd, ac ef oedd ei swyddog cyflogedig cyntaf. “Mae’r Gymdeithas wedi datblygu llawer ers y dyddiau cynnar hynny,” eglurodd. “Mae gennym 1800 o dai ledled gogledd Cymru bellach, a 70 aelod o staff yn gweithio i’r Gymdeithas, o swyddfeydd yn Ninbych a’r Bala. Un o’r pethau rwyf wedi ei fwynhau fwyaf wrth weithio i Gymdeithas Tai Clwyd, ydi cyflwyno goriadau t cyfforddus fforddiadwy i deulu, gan newid eu bywyd er gwell.” Mae’r gymdeithas yn derbyn 60% o gost prynu neu adeiladu t mewn grant gan y Cynulliad, ac yn benthyg y 40% arall gan gymdeithas adeiladu. “Nid benthyg ychydig filoedd fesul t chwaith , ond mewn un benthyciad o £4m i £5m. Morgais mewn ffordd, ac mae hwnnw’n ddigon am flwyddyn neu ddwy, ac yn cael ei dalu’n ôl trwy rent y tai dros gyfnod y morgais.” Dywed fod ei gyfnod gyda’r gymdeithas wedi bod yn bleserus iawn. “Heblaw am y noson honno pan yrrais am yn ôl, yn ddamweiniol, i mewn i gar Swyddog Tai Cymru, gan ei daro i lawr llethr bychan yn syth i mewn i wal, yn ein maes parcio. Y peth gwaethaf oedd bod y maes parcio yn wag ar y pryd! Mi gostiodd y cerbyd torri lawr yn ddrud i mi. Dwi’n dal i ddweud mai ei fai ef ei hun oedd hi am beidio codi’r handbrêc yn iawn!” dywed yn gellweirus. Mae gan y gr, a fyddai wedi dewis ffermio fel galwedigaeth arall, deimladau cymysg wrth adael ei swydd. Ar yr un llaw tristwch wrth ffarwelio â ffrindiau a chydweithwyr selog, ac ar y llaw arall, edrych ymlaen at geisio cyflawni cymaint o bethau sydd wedi cael eu rhoi o’r neilltu wrth arwain y Gymdeithas dros y chwarter canrif ddiwethaf. “Dwi’n edrych ymlaen yn arw at dreulio llawer mwy o amser gyda’m hwyresau bach, Catrin Alaw, Gwenno Fflur a Loti. Wrth aeddfedu, mae iechyd, teulu a ffrindiau yn dod yn hollbwysig. “Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at gyflawni mwy o waith gwirfoddol – fel Ynad Heddwch ac hwyrach gydag un neu ddau o fudiadau eraill, treulio llawer mwy o amser yn yr ardd a pharhau gyda’m hoff ddiddanwch, golff. Ar ben hynny, bydd rhaid gwneud amser i fynd trwy’r rhestr hirfaith o bethau mae Helen, y wraig, am i mi wneud o amgylch y t, ac rwyf hefyd yn edrych ymlaen at gael y dewis o aros yn fy ngwely tan 11 y bore!” Ei olynydd yn y swydd yw Alwyn Llwyd, gr 54 oed o Dregarth. Tudur Huws Jones |