DDEUGAIN mlynedd union yn ôl, ar Orffennaf 14eg, 1966, enillodd y diweddar Gwynfor Evans Is-Etholiad Caerfyrddin, a gellir dweud am y fuddugoliaeth honno, fel na ellir dweud am yr un etholiad arall, ei bod wedi newid cwrs hanes diweddar Cymru. Byddwn yn dathlu’r achlysur yng Nghanolfan Sain, ger Llandwrog, ar nos Sadwrn, Gorffennaf 15fed, ac y mae croeso cynnes i bawb i ddod draw i ymuno yn y dathlu. Bydd cig Cymreig yn cael ei rostio ar y barbeciw, a cherddoriaeth o’r 60au a’r 70au yn chwarae, a bydd cyfle hefyd i weld y DVD newydd ar hanes bywyd Gwynfor Evans ei hun. Manylion y tocynnau ar gael ar 01286 676004. Dafydd Wigley |